Join WNO Conductor Laureate Carlo Rizzi, the award-winning mezzo-soprano Justina Gringytė (La forza del destino, Roberto Devereux) and WNO Orchestra for a concert that will win both hearts and minds.
The concert opens with Adoration by Florence Price. First composed in 1951 for the organ, this piece found a new life in a stirring arrangement for solo violin and string orchestra. Though it lasts just three minutes, its emotional weight is undeniable with a dignified melody and solemn harmonies.
Berlioz’s song cycle, Les Nuits dété, based on six poems, explores the progression of love, blending vivid orchestral colours with Gringytė's ‘knockout technique’ (The Times) that will take you on a passionate journey of love and loss.
The concert concludes with Bruckner’s Symphony No 4, First written in 1874 it was subject to many revisions to bring it in line with the fashion of the time. Despite being over an hour-long Beauty will leave you feeling energised.
-
Ymunwch ag Arweinydd Uchel ei Fri y WNO, Carlo Rizzi, y mezzo-soprano arobryn, Justina Gringytė (La Forza Del Destino, Roberto Devereux) a Cherddorfa WNO ar gyfer cyngerdd a fydd yn swyno calonnau a’r meddyliau.
Mae’r cyngerdd yn agor gydag Adoration gan Florence Price. Cafodd y darn hwn ei gyfansoddi gyntaf yn 1951 ar gyfer yr organ, ond rhoddwyd bywyd newydd iddo mewn trefniant cryf ar gyfer y ffidil a’r gerddorfa linynnol. Er mai darn byr o dri munud ydyw, mae ei effaith emosiynol yn amlwg, gyda melodi cryf a harmonïau trymion.
Mae cân gylchol Berlioz, Les Nuits dété, sy’n seiliedig ar chwe cherdd, yn archwilio cynnydd cariad, gan gyfuno lliwiau bywiog cerddorfaol gyda ‘thechneg syfrdanol’ Gringytė (The Times) a fydd yn eich tywys ar daith angerddol o gariad a cholled.
Daw’r cyngerdd i ben gyda Symffoni Rhif 4 Bruckner, a gyfansoddwyd gyntaf yn 1874. Cafodd y darn ei addasu sawl gwaith dros y blynyddoedd er mwyn gweddu â ffasiwn pob cyfnod yn ei dro. Er bod Beauty yn para dros awr, bydd y darn yn sicr o’ch bywiogi.
You may also like the following events from Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru:
Also check out other
Music events in Cardiff,
Entertainment events in Cardiff,
Concerts in Cardiff.